P-04-438 : Hygyrchedd wrth Siopa
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
Ymchwilio i’r
ddarpariaeth o leoedd parcio oddi ar y ffordd i bobl anabl yn
unol
âchyfarwyddyd
yr Adran Drafnidiaeth.
Creu deddf sy’n
nodi isafswm y lleoedd parcio i bobl anabl, a
dimensiynau’r
lleoedd hynny. Ymchwilio i’r
maint lleiaf a bennir ar gyfer lleoedd parcio i bobl anabl ar hyn o
bryd, i ganfod a ystyrir faniau a gaiff eu defnyddio i gludo
defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Pennu dirwy safonol, uwch am gamddefnyddio lleoedd parcio i bobl
anabl, a fyddai’n
gymwys ym mhob maes parcio, a sicrhau y caiff ei gorfodi y tro
cyntaf y bydd rhywun yn troseddu.
Gorfodi cwmnïau
tacsis i gludo’r
clampiau a riliau dirwyn cywir i’w
defnyddio gyda chadeiriau olwyn â modur.
Ymchwilio a yw’r
tai bach a ddarperir i bobl anabl ar hyn o bryd yn ddigon mawr i
ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
âmodur
a’u
gofalwyr.
Creu cynllun sy’n
trefnu bod siopau sydd
â
rampiau sefydlog neu symudol yn arddangos bathodyn yn eu
ffenestri.
Prif ddeisebydd: Mencap ac Ysgol Erw’r Delyn
Nifer y llofnodion: 55